Mae’r gyfran o bobol sydd mewn gwaith ac sy’n byw mewn tlodi, wedi codi 40% ers 1994 yn ôl ymchwil – ac mae’r rheswm am hynny yn gymhleth.
Rhwng 1994 a 2017, mae’r gyfran wedi cynyddu o 13% i 18%, sef wyth miliwn o bobol.
Y prif reswm yw’r vynnydd mewn costau byw, rhent uwch, a chyfradd is yn berchen eu tai eu hunain.
Rheswm arall yw oherwydd bod mwy o bobol ar gyflogau is, fel rhieni sengl, yn gweithio, meddai’r sefydliad.