Mae ymadawiad llyfn o’r Undeb Ewropeaidd yn bosib gyda Boris Johnson yn Brif Weinidog, a chytundeb gyda’r Brexit Party, meddai arweinydd y blaid honno, Nigel Farage.

“Os yw Boris Johnson yn barod i fynd i Dy’r Cyffredin i gael ei bleidleisio i lawr, i golli cynnig o hyder, ac i fynd â’r wlad i etholiad gyda chefnogaeth rhywun fel fi – fe fyddai’n ennill mwyafrif enfawr,” meddai Nigel Farage.

“Os byddai’n barod i wneud hynny, wrth gwrs y byddwn i’n barod i weithio â’r blaid Geidwadol, ac wrth gwrs y byddwn i’n fodlon ar hynny.”

Yn ôl Nigel Farage “ychydig iawn” o siawns sydd gan y Torïaid o sicrhauymadawiad Prydain o’r Undeb Ewropeaidd erbyn Hydref 31, hyd yn oed os yw Boris Johnson yn dod yn Brif Weinidog.

Mae’r cyn ysgrifennydd tramor yn wynebu “rhyfel cartref agored” yn San Steffan, yn ôl Nigel Farage.

Daw ei sylwadau yn wyneb y pryder y gallai ei blaid rannu ei phleidleisiau â chefnogwyr Brexit ymysg y Torïaid.