Mae’r dyfeisiwr a’r biliwnydd, James Dyson, wedi rhoi £19m yn anrheg i’w hen ysgol, am ganiatau iddo aros yno’n ddisgybl ar ôl marwolaeth ei dad.

Roedd James Dyson yn ddisgybl naw oed yn Gresham’s School yn nhref Holt yn Norfolk pan fu farw ei dad Alec Dyson, a oedd yn athro yn yr ysgol, o ganser yn 1956.

Fe roddodd yr ysgol gefnogaeth ariannol iddo ar ôl hynny gan gynnig ysgoloriaethau iddo a’i frawd i aros yno.

Mae’r dyfeisiwr, sydd werth o gwmpas £12.6bn, yn bumed ar restr pobol gyfoethocaf gwledydd Prydain gan bapur The Sunday Times eleni.

Fe fydd ei rodd i Gresham’s School yn mynd at ganolfan gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, celf a mathemateg newydd yn yr ysgol, ac mae disgwyl iddi gael ei hagor yn 2021.