Mae disgwyl i ddau fachgen yn eu harddegau ymddangos gerbron llys heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 18) yn dilyn llofruddiaeth disgybl 17 oed ger Manceinion.
Fe gafodd Yousef Makki ei drywanu i farwolaeth ar stryd yn Hale Barns – pentref i’r de o Fanceinion sydd yn boblogaidd gyda chwaraewyr pêl-droed ac enwogion.
Roedd y bachgen wedi ennill ysgoloriaeth gwerth £12,000 i fynd i Ysgol Ramadeg Manceinion.
Mae bachgen 17 oed wedi pledio’n ddieuog o ladd Yousef Makki ar Fawrth 2, ac mae bachgen arall, 17, yn gwadu gwyrdroi cwrs cyfiawnder a chynllwynio i ladrata.
Nid yw’r ddau yn cael eu henwi oherwydd eu bod o dan 18.
Mae disgwyl i’r gwrandawiad bara pythefnos yn Llys y Goron Manceinion.