Mae ymgyrchwyr trychineb Twr Grenfell wedi taflunio neges ar Dai’r Senedd yn Westminster ddwy flynedd wedi i’r tân ladd 72 o bobol yn Llundain.

Daw hyn yn dilyn protestiadau tebyg yr wythnos diwethaf ble gwelwyd negeseuon yn cael eu taflunio ar dyrrau “anniogel” ledled gwledydd Prydain.

Neithiwr (nos Lun, Mehefin 18) cafodd neges yn galw ar y Llywodraeth i gymryd camau yn syth i atal tragedi debyg yn y dyfodol ei thaflunio ar adeiladau’r Senedd.

“Dwy flynedd wedi Grenfell, dydi’r adeilad hwn ddim wedi cadw ei addewidion,” meddai’r neges.

Roedd dydd Gwener (Mehefin 14) yn nodi dwy flynedd union ers i’r tân gydio yn y twr yn Kensington – y tân gwaethaf ers yr Ail Ryfel Byd.

Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod o gwmpas 328 o dyrau yng ngwledydd Prydain yn dal yn anniogel.

Yn rhan o’r ymgyrch cafodd negeseuon eu taflunio ar dyrrau yn Llundain, Newcastle a Manchester drwy gydol yr wythnos hefyd.