Mae dau arddegwr wedi cael eu cyhuddo o lofruddio dyn 18 oed yn ystod penwythnos treisgar yn Llundain.

Cafodd y dyn ei drywanu i farwolaeth, ac mae’n un o dri dyn a gafodd eu lladd mewn dau ymosodiad gwahanol o fewn 24 awr i’w gilydd.

Cafodd Mohammed Nadir Dafallah, 18, a llanc 17 oed nad oes modd cyhoeddi ei enw, eu cyhuddo heddiw (dydd Sul, Mehefin 16).

Byddan nhw’n mynd gerbron ynadon Wimbledon yfory (dydd Llun, Mehefin 17).

Beirniadu Sadiq Khan

Mae’r ymosodiadau diweddaraf wedi arwain at feirniadu Sadiq Khan, Maer Llundain.

Ymhlith y rhai fu’n ei feirniadu mae Donald Trump, Arlywydd yr Unol Daleithiau, a Katie Hopkins, y sylwebydd.

Mae Donald Trump yn dweud bod Maer Llundain yn “drychinebus”, ar ôl ail-drydar sylwadau Katie Hopkins am yr ymosodiadau, wrth iddi ddweud bod Llundain, neu “Londonistan”, yn “stab city”.

Mae Donald Trump yn galw am Faer newydd i Lundain “cyn gynted â phosib”.

Mae llefarydd ar ran Sadiq Khan yn dweud na fydd yn “gwastraffu amser” wrth ymateb i’r feirniadaeth.

Ymosodiadau

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Wandsworth brynhawn dydd Gwener, lle cafwyd hyd i ddyn wedi’i drywanu, ac fe fu farw’n ddiweddarach.

Mewn ail ymosodiad funudau’n ddiweddarach, cafodd dyn 19 oed ei saethu’n farw yn Plumstead.

Cafodd dyn yn ei 30au ei drywanu i farwolaeth yn Tower Hamlets brynhawn ddoe (dydd Sadwrn, Mehefin 15).0

Cafodd tri dyn arall eu trywanu yn Clapham.