Er bod Boris Johnson wedi cytuno i gymryd rhan mewn dadl deledu nos Fawrth (Mehefin 18), cadair wag fydd yn cymryd ei le mewn dadl ar Channel 4 nos yfory (nos Sul, Mehefin 16).

Mae Channel 4 wedi cadarnhau y bydd y ddadl yn mynd yn ei blaen am 6.30yh gyda’r pum ymgeisydd arall yn wynebu cwestiynau gan gynulleidfa fyw.

Er ei fod ymhell ar y blaen yn y ras i olynu Theresa May, mae Boris Johnson wedi cael ei wawdio gan ei wrthwynebwyr oherwydd ei amharodrwydd i gymryd rhan mewn dadleuon.

Dywedodd yr ail yn y ras, Jeremy Hunt, y byddai’n werth dyfalu beth fyddai barn Winston Churchill o ddarpar brif weinidog a oedd yn “cuddio oddi wrth y cyfryngau”.

Dywedodd ymgeisydd arall, Dominic Raab, fod agwedd Boris Johnson yn codi amheuon a oedd ganddo’r dycnwch a’r asgwrn cefn i fod yn brif weinidog.

“Os nad ydych yn gallu wynebu her dadleuon teledu, pa siawns sydd gennych o ddygymod â gwres trafodaethau ym Mrwsel?” gofynnodd.

Enw Boris yn unig?

Mae ymateb chwyrn wedi bod hefyd i sibrydion am ymgais i berswadio gweddill yr ymgeiswyr dynnu’n ôl o’r ornest yr wythnos nesaf, gydag enw Boris Johnson yn unig yn mynd i’r bleidlais derfynol o aelodau cyffredin y Blaid Geidwadol.

Y gred yw bod chwipiaid y blaid yn awyddus i osgoi wythnosau o ymosodiadau’r ymgeiswyr ar ei gilydd a allai helpu’r blaid Lafur.

Mae un o’r ymgeiswyr sy’n dal ar ôl, Rory Stewart, wedi galw ar i bawb sy’n credu nad yw hyn yn syniad da i ysgrifennu at eu haelod seneddol.