Mae’r Post Brenhinol yn nodi canmlwyddiant y daith awyren gyntaf dros yr Iwerydd trwy lansio blwch postio a marc post arbennig.

Cymerodd 16 awr i John Alcock ac Arthur Whitten Brown gyrraedd Swydd Galway yn Iwerddon o America yn cludo cannoedd o lythyrau ar 15 Mehefin 1919.

Mae’r blwch postio arbennig yn cael ei lansio heddiw y tu allan i ganolfan ddosbarthu fyd-eang y Post Brenhinol gerllaw maes awyr Heathrow.

“Mae’r Post Brenhinol yn falch o dalu teyrnged i’r daith post awyr dros yr Iwerydd,” meddai David Gold o’r Post Brenhinol.

“Fydd dewrder Alcock a Brown wrth wthio’r ffiniau fyth yn mynd yn angof ac mae eu gwaddol yn parhau gyda’r gwasanaeth post heddiw.”