Cafodd dau fachgen yn eu harddegau eu llofruddio o fewn munudau i’w gilydd mewn gwahanol rannau o Lundain bnawn ddoe.

Ychydig oriau’n ddiweddarach, cafodd tri dyn eu trywanu mewn ymosodiad arall ar wahân.

Dywed Heddlu Llundain fod 14 o bobl wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â’r tri digwyddiad.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad cyntaf yn Wandsworth, lle cafwyd hyd i fachgen yn ei arddegau hwyr eisoes wedi marw ar ôl cael ei drywanu.

Yn yr ail ddigwyddiad, fe fu farw’r bachgen arall ar ôl cael ei saethu yn Plumstead yn nwyrain Llundain. Fe ddigwyddodd yr achosion o drywanu yn Clapham ychydig wedi 3 o’r gloch fore heddiw.

Dywedodd Maer Llundain, Sadiq Khan, ei fod yn bryderus iawn am y sefyllfa.

“Mae’n fy ngwneud i’n sâl fod dau fywyd ifanc wedi dod i ben o fewn munudau i’w gilydd yn Wandsworth a Greenwich,” meddai.

“Mae’n plismyn ni’n gweithio ddydd a nos i gadw Llundeinwyr yn ddiogel – ac mae arnyn nhw angen ein cymorth i ddod â’r melltith hwn o drais i ben.”