Mae nyrs sy’n cael eu hamau o ladd babanod mewn ysbyty yn ninas Caer wedi cael ei rhyddhau ar fechnïaeth.

Cafodd Lucy Letby, 29, ei harestio yn wreiddiol fis Gorffennaf y llynedd ar amheuaeth o ladd wyth babi a cheisio lladd chwe phlentyn arall.

Cafodd y nyrs ifanc, sy’n wreiddiol o Swydd Henffordd, eu hailarestio ddechrau’r wythnos hon (dydd Llun, Mehefin 10) wedi eu hamau o gyflawni’r troseddau hynny ac o fod â chysylltiad â marwolaeth tri baban arall.

Bu’r heddlu yn archwilio ei chartref yn ardal Blacon, Caer, yr wythnos hon.

Mae’r cyfan yn rhan o ymchwiliad ehangach i farwolaeth 17 o fabanod yn Ysbyty Iarlles Caer rhwng mis Mawrth 2015 a mis Gorffennaf 2016.

Mae’r ymchwiliad yn parhau.