Mae un o aelodau Monty Python wedi beirniadu “cytundeb gwael” rhwng y llywodraeth yn San Steffan a’r BBC am y toriadau i drwyddedau am ddim i bawb dros 75 oed.

Lleisiodd yr awdur a’r cyflwynydd 76 oed ei anfodlonrwydd tros doriadau i gyllid y BBC sy’n cael eu trosglwyddo ar y gwyliwr cyffredin.

Bu ymateb ffyrnig i’r penderfyniad, gyda deiseb ar-lein yn denu ymhell dros 330,000 o gefnogwyr a beirniadaeth gan wleidyddion ar draws y sbectrwm gwleidyddol.

“Rwy’n gwybod bod y BBC wedi gwneud cytundeb eithaf gwael, rwy’n meddwl bedair blynedd yn ôl, gan ddweud y byddai’n cymryd drosodd y trwyddedau ac roeddwn i’n gobeithio rywsut y byddai hynny’n diflannu ac nad yw wedi diflannu,” meddai Michael Palin.

“Mae’n costio llawer o arian iddyn nhw ac maen nhw nawr yn sylweddoli na fydd yn cael ei newid ac maen nhw’n mynd i golli cyfran enfawr o’u rhaglenni.

“Rwy’n dymuno nad oedd ar draul y bobl sydd bellach yn gorfod fforcio allan am eu trwydded.”

Disgwylir i tua 3.7 miliwn o bensiynwyr golli allan.