Mae’r colofnydd papur newydd, Sarah Vine, wedi amddiffyn ei gŵr, Michael Gove, yn sgil ffrae fawr ynghylch ei ddefnydd o’r gyffur cocên yn ystod yr 1990au.

Mae datgeliad yr Ysgrifennydd Amgylchedd wedi taflu cysgod dros ei ymgyrch i ddod yn Brif Weinidog nesaf gwledydd Prydain.

Mewn colofn ym mhapur The Daily Mail, dywed ei wraig y dylai fod wedi “cyfaddef ynghynt”, ond mae’n edmygu ei ddewrder wrth “wynebu’r gwir”.

Ychwanega fod llawer yn safle Michael Gove wedi gwneud yr un peth, ac mae’n cymharu ei sefyllfa gydag anffyddlondeb Arlywydd yr Unol Daleithiau, Bill Clinton, a safbwynt Tony Blair ar arfau peryglus yn Irac.

“Mae’r rhan fwyaf o bobol yn gallu maddau camgymeriadau dynol,” meddai Sarah Vine. “Yr hyn dydyn nhw ddim yn gallu ei wynebu yw celwyddgi. Ac maen nhw’n iawn.”