Mae pobol yn gwrthod swyddi swyddfa naw tan bump traddodiadol ac yn chwilio am gyfleoedd i wneud crefftau ymarferol neu waith yn yr awyr agored.

Mae astudiaeth gan y cwmni recriwtio Adzuna ym awgrymu mai swydd yn gweithio mewn gwinllan oedd yr un a gafodd y nifer mwyaf o gliciadau ar ei safle swyddi er ei bod ond yn cynnig cyflog o  ddim ond £15,360 y flwyddyn.

Ymhlith y swyddi poblogaidd eraill yr oedd jobsys tymhorol â chyflogau is fel casglwyr ffrwythau, a swyddi sy’n cael eu llenwi gan weithwyr tramor fel arfer.

Roedd y rhain yn cynnwys cynorthwy-ydd trydanwr, seiri dodrefn siop, a chynorthwy-ydd i blymar, tra bod swyddi poblogaidd eraill yn amrywio o drin blew ac ewinedd anifeiliaid  i oruchwylio cybiau cŵn a gweithio mewn coedwig.

“Mae’r rhestr o’r swyddi sydd wedi’u clicio fwyaf yn datgelu tair tuedd allweddol sy’n gwneud swydd yn ddymunol, yn ôl Adzuna.

Yn gyntaf, gweithio gydag anifeiliaid. Yn ail, swyddi awyr agored egnïol. Yn drydydd, crefftwaith ymarferol.

“Mae’n ymddancos fod pobol yn hiraethu am y bywyd da, ac mae gweithwyr yn blaenoriaethu lles dros arian caled.”