Mae Comisiwn Elusennau Cymru a Lloegr wedi dyfarnu rhybudd swyddogol i elusen Oxfam GB, wedi i ymchwiliad i ymddygiad staff allan yn Haiti yn 2010 ddangos fod yna “ddiwydiant o ymddygiad gwael”.

Roedd yr ymddygiad yn dilyn daeargryn Haiti yn 2010, yn cynnwys cam-drin plant yn rhywiol.

Mae’r adroddiad, sydd wedi’i gyhoeddi heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 11) yn ffrwyth llafur ymchwil blwyddyn a hanner, ac yn dweud na wnaeth yr elusen wrando ar rybuddion – gan gynnwys ei staff ei hun – er mwyn cadw pobol yn ddiogel.

  • Mae’r adroddiad yn nodi fod Oxfam wedi methu ag ymchwilio’n ddigonol i honiadau bod plant mor ifanc â 12 neu 13 oed yn dioddef camymddwyn rhywiol gan “bennaeth elusen”;
  • nad oedd wedi adrodd am honiadau o gam-drin plant gan staff elusennau yn Haiti;
  • a bod uwch staff y deliwyd â honiadau o gamymddwyn rhywiol yn eu herbyn, yn “druenus”.

“Mae ein hymchwiliad yn dangos, dros gyfnod o flynyddoedd, bod diwylliant mewnol Oxfam yn goddef ymddygiad gwael, ac ar brydiau yn colli golwg ar y gwerthoedd y mae’n sefyll drostyn nhw,” meddai Helen Stephenson, prif weithredwr y Comisiwn Elusennau.

Dywed fod angen “newid diwylliannol a systematig pellach sylweddol” yn Oxfam – sydd wedi bod dan arweiniad prif weithredwr newydd Dhananjayan Sriskandarajah ers mis Ionawr eleni – a bod angen mynd i’r afael â’r diffygion a’r gwendidau.

Er nad oedd tystiolaeth i ategu’r honiadau, meddai, dylai Oxfam fod wedi ceisio’n galetach i fynd at wraidd honiadau