Mae MI5 “wedi torri’r gyfraith mewn ffyrdd anghyffredin a chyson” wrth ddelio â’r ffordd y mae data personol yn cael ei gadw.

Dyna y mae’r Uchel Lys wedi’i glywed heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 11).

Mae cyfreithwyr sy’n cynrychioli grŵp ymgyrchu Liberty yn honni bod MI5 wedi nodi problemau gyda storio a dadansoddi data “mor bell yn ôl â mis Ionawr 2016”, a bod y Prif Weinidog a’r Ysgrifennydd Cartref ond wedi cael gwybod yn ysgrifenedig ym mis Ebrill.

Mae dogfennau a gafwyd gan Liberty yn dangos bod tîm cydymffurfio MI5 wedi mynegi pryder y gallai “data fod yn cael ei gadw mewn mannau heb eu rheoli yn groes i’n polisïau”.

“Mae’r datgeliadau syfrdanol hyn yn datgelu sut mae MI5 wedi bod yn cam-drin ein data yn anghyfreithlon ers blynyddoedd, gan ei storio pan nad oes ganddynt sail gyfreithiol i wneud hynny,” meddai Megan Goulding, cyfreithiwr ar ran Liberty.

“Gallai hyn gynnwys ein gwybodaeth fwyaf sensitif – ein galwadau a’n negeseuon, ein data lleoliad, ein hanes pori ar y we.

“Mae’n annerbyniol mai dim ond ar ôl i’r Llywodraeth gael eu gorfodi i ddatgelu nhw yn ystod her gyfreithiol Liberty y mae’r cyhoedd yn dysgu am yr achosion difrifol hyn o dorri amodau difrifol.”