Mae dau deithiwr yn eu harddegau o wledydd Prydain wedi’u lladd mewn damwain car yn Bolifia.

Yn ôl yr heddlu, mae Freddie Michael McLennan a George Joseph Atkins, y ddau’n 19 oed, ynghyd â gyrrwr y cerbyd, Alberto Barco, 22, wedi’u lladd yn y digwyddiad.

Y gred ydi fod y car yn teithio’n rhy gyflym pan drodd drosodd ar y Salar de Uyuni, yr ardal craig halen sy’n un o brif atyniadau twristaidd de Bolifia.

Mae adroddiadau fod pedwar o bobol eraill wedi cael eu hanafu yn y ddamwain ddigwyddodd nos Sul (Mehefin 9) tua 186 milltir i’r de o’r brifddinas, La Paz.