Bydd tua 3.7m o gartrefi, sy’n derbyn trwydded deledu yn rhad ac am ddim o dan y drefn bresennol, yn gorfod talu am un ar ôl 2020.

Mae’r BBC wedi cyhoeddi y byddan nhw’n dod â’r cynllun trwyddedau teledu presennol i ben ar gyfer pobol sydd dros 75 oed, ac eithrio’r rheiny sy’n derbyn credyd pensiwn.

Yn ôl pennaeth y gorfforaeth, Tony Hall, dyw’r newid a ddaw yn sgil adolygiad o’r cynllun ddim yn “benderfyniad rhwydd”, ond ei fod yn un sy’n “deg i’r pensiynwyr tlotaf”.

Bydd tua 1.5m o gartrefi yn gallu derbyn trwydded am ddim ar ôl mis Mehefin y flwyddyn nesaf, a fydd yn costio tua £250m i’r BBC erbyn y cyfnod 2021/22.

Ond pe bai’r drefn bresennol wedi parhau, meddai’r BBC, fe fyddai’r baich ariannol wedi gorfodi’r darlledwr i “newid yn sylfaenol”.

Beirniadaeth

Mae’r penderfyniad wedi derbyn beirniadaeth gan wahanol unigolion a sefydliadau, yn eu plith mae Tom Watson, dirprwy arweinydd y Blaid Lafur a’i llefarydd ar ddiwylliant.

Mae’n dweud bod Llywodraeth Prydain yn ymddwyn yn “warthus” wrth dderbyn y cynnig i waredu ar drwyddedau teledu am ddim i 3m o bobol mewn oed.

“Yn ystod yr un wythnos ag y mae Boris Johnson wedi cyhoeddi toriadau mewn treth i’r 8% cyfoethocaf, mae ei Lywodraeth wedi darparu toriad arswydus arall i’r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas…” meddai Tom Watson.

Dywed llefarydd ar ran yr elusen Age UK fod y newid gan y BBC am arwain at nifer o bensiynwyr yn rhoi’r gorau i deledu

“Yr hyn a ddylai’r Llywodraeth ei wneud yw parhau i ariannu’r trefniant presennol hyd nes bod cytundeb ariannu’r BBC yn cael ei ail-drafod yn 2022.”