Mae nyrs a gafodd ei harestio fis Gorffennaf y llynedd mewn perthynas â marwolaeth 14 o fabanod mewn ysbyty yng Nghaer wedi cael ei hail-arestio.
Cafodd Lucy Letby, 28, ei harestio ar amheuaeth o lofruddio wyth babi a cheisio llofruddio chwe babi arall yn yr uned yn Ysbyty Countess of Chester.
Mae hi bellach wedi’i harestio ar amheuaeth o lofruddio tri babi arall, ac mae hi’n cael ei holi yn y ddalfa.
Mae’r heddlu’n dweud bod yr ymchwiliad yn “heriol”, ac nad ydyn nhw am ddatgelu rhagor o fanylion ar hyn o bryd.
Mae llefarydd ar ran Ymddiriedolaeth Sefydliad GIG Countess of Chester yn dweud eu bod yn cydymffurfio’n llawn â’r ymchwiliad.
Cefndir
Fe fu’r heddlu’n ymchwilio ers mis Mai 2017 i farwolaeth babanod yn yr ysbyty yng Nghaer.
Roedden nhw’n canolbwyntio’n wreiddiol ar farwolaeth 15 o fabanod rhwng Mehefin 2015 a Mehefin 2016.
Ond maen nhw bellach yn ymchwilio i 17 marwolaeth ac 16 o achosion o fabanod yn cael eu taro’n wael rhwng Mawrth 2015 a Gorffennaf 2016.