Mae ymgyrchwyr yn dweud eu bod yn barod i fynd a Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) i’r llys dros honiadau bod achosion yn ymwneud a throseddau rhywiol yn cael eu “gollwng” heb reswm da.

Mae grŵp o sefydliadau menywod o bob rhan o wledydd Prydain, sy’n cael eu cynrychioli gan y Ganolfan dros Gyfiawnder i Fenywod (CWJ), yn honni bod y gwasanaeth wedi newid ei bolisi, y tu ôl i ddrysau caeedig, o ran penderfyniadau’n ymwneud ag achosion o drais. Maen nhw’n dweud bod hyn wedi arwain at ostyngiad sylweddol yn nifer y cyhuddiadau troseddol mewn achosion o’r fath.

Mae ffigurau’r Llywodraeth yn dangos bod gostyngiad o 23.1% yn nifer yr achosion o drais oedd wedi cael eu hystyried gan Wasanaeth Erlyn y Goron yn y 12 mis hyd at 2017/18, er gwaetha cynnydd o 16% yn nifer yr achosion oedd yn cael eu cofnodi gan yr heddlu yn yr un cyfnod.

Yn ol y grŵp, mae’r newidiadau yma, a’r diffyg achosion sy’n mynd i’r llys, yn gwahaniaethu yn erbyn menywod a merched, ac yn fethiant sylweddol wrth ddiogelu eu hawliau dynol.

Fe fyddan nhw’n anfon “llythyr cyn gweithredu” at y CPS ddydd Llun (Mehefin 10) yn eu hannog i adolygu a newid y ffordd maen nhw’n delio gydag achosion o droseddau rhywiol difrifol.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron fod penderfyniadau yn cael eu gwneud ar y sail bod achosion yn cwrdd â’u “meini prawf cyfreithiol – ac nid unrhyw reswm arall – a byddwn bob amser yn ceisio erlyn os oes digon o dystiolaeth i wneud hynny.”