Mae aelod blaenllaw o’r Blaid Lafur yn gwadu mai polisi swyddogol y blaid yw galw am ail refferendwm Brexit.

Daw sylwadau Barry Gardiner, llefarydd masnach ryngwladol y blaid, wrth i nifer cynyddol o aelodau seneddol alw am bleidlais o’r newydd.

Mae’n dweud mai blaenoriaeth yr arweinydd Jeremy Corbyn yw pwyso am etholiad cyffredinol pe na bai modd dod i gytundeb ar ymadawiad Prydain o’r Undeb Ewropeaidd.

“Aros a diwygio” oedd meddylfryd blaid yn wreiddiol, meddai wrth raglen Andrew Marr ar y BBC, ond fod eu safbwynt wedi newid dros gyfnod o amser i adlewyrchu dymuniad y mwyafrif.

Mae’n dweud bod Llywodraeth Geidwadol Prydain wedi methu â gwneud hynny drwy “anallu” ac “anfodlonrwydd i symud oddi ar eu llinellau cochion”.

Mae’n dweud bod y blaid yn parhau i fod yn barod i wrthwynebu ymadawiad heb gytundeb, ac y byddai’n gwneud hynny drwy wthio am bleidlais o’r newydd neu drwy alw am etholiad cyffredinol.

Etholiad cyffredinol

Yn ôl Barry Gardiner, mae’r Blaid Lafur yn dweud eu bod yn barod i bwyso am etholiad cyffredinol yn hytrach nag ail refferendwm, am fod ganddyn nhw’r hawl i wneud y naill ond nid y llall.

“Y gwir yw, er mwyn cael ail refferendwm, byddai’n rhaid i’r llywodraeth gyflwyno deddfwriaeth, ac mae’r llywodraeth wedi pwysleisio nad ydyn nhw am wneud hynny,” meddai.

“Gallen ni bwyso arnyn nhw am etholiad cyffredinol oherwydd gallwn ni gyflwyno hynny, mae gennym y grym i gyflwyno cynnig o ddiffyg hyder.”