Mae warant i arestio dau wneuthurwr ffilmiau o Ogledd Iwerddon wedi cael ei ddileu.

Cafodd Trevor Birney a Barry McCaffrey eu holi fis Awst y llynedd ar amheuaeth o ddwyn dogfen yr heddlu’n ymwneud â Thrafferthion Gogledd Iwerddon, wrth iddyn nhw greu ffilm am y cyfnod.

Mae’r ddau wedi derbyn y dogfennau’n ôl gan yr heddlu, ond maen nhw’n galw am ddwyn uwch swyddogion i gyfrif yn sgil yr helynt.

Roedd y ddogfen No Stone Unturned (cynhyrchiad Fine Point) yn torri tir newydd wrth enwi nifer o’r rhai oedd yn cael eu hamau o fod â rhan yn y Trafferthion, pan gafodd chwech o Gatholigion eu llofruddio mewn tafarn wrth wylio gêm bêl-droed Gweriniaeth Iwerddon yng Nghwpan y Byd ar y teledu.

Roedd y cyfarwyddwr Alex Gibney wedi dadlau na all newyddiadurwyr wneud y gwaith wrth ymchwilio i ymddygiad yr heddlu yn ystod y Trafferthion os yw’r heddlu’n mynd ati’n fwriadol i gelu dogfennau.