Mae cefnogwyr Lloegr wedi cael eu beirniadu am eu hymddygiad yn Portiwgal ar ôl iddyn nhw wrthdaro gyda’r heddlu yno.

Yn ôl tystion fe ddechreuodd cefnogwyr Lloegr daflu poteli gwydr o gwmpas teuluoedd yn ninas Porto oedd yn gwylio gem bêl-droed Portiwgal a’r Swistir, gan weiddi ‘England ‘til I die’.

Dywed un cefnogwr ei fod yn “gywilydd i fod yn Sais” yn dilyn y trwbl tra mae pennaeth heddlu yng ngwledydd Prydain wedi dweud bod yr ymddygiad yn “hollol annerbyniol.”

Mae fideo sydd wedi lledaenu ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos heddlu yn rhedeg ar ôl cefnogwyr Lloegr wrth i gêm Portiwgal gael ei darlledu mewn ardal cefnogwyr yn y ddinas.

Ynddi mae cefnogwyr gyda chrysau Lloegr yn taflu diodydd a photeli pan mae Portiwgal yn sgorio.

Mae Lloegr yn chwarae yr Iseldiroedd heddiw (dydd Iau, Mehefin 6) yn rownd gyn-derfynol Cynghrair y Cenhedloedd, 35 milltir o Porto yn Guimaraes.