Mae dynes wedi dweud wrth gwest i farwolaeth ei thad, ei bod yn credu iddo ladd ei hun wedi i’w fudd-daliadau gael eu canslo.

Fe glywodd Llys Crwner Wakefield yn Swydd Efrog ddoe (dydd Mercher, Mehefin 5) fel y crogodd Kevin Dooley ei hun wythnos cyn y Nadolig y llynedd, ac yntau’n ddim ond 48 oed.

Yn ôl Leanne Dooley, a ddaeth o hyd i’w thad, roedd y penderfyniad i ganslo yr arian lles yr oedd yn ei dderbyn oherwydd ei fod yn diodde’ o gyflyrau cronig, “wedi arwain at ei hunanladdiad”.

Roedd y peintiwr ac addurnwr, a oedd yn diodde’ o anhwylder anadlu o ganlyniad i gyflwr OPD, yn poeni na allai dalu ei filiau unwaith y byddai ei daliadau ESA yn cael ei ddileu.

Gan ei fod wedi’i asesu’n “abl i weithio” ni fyddai’n derbyn cymorth gan y wladwriaeth. Ond, meddai Leanne Dooley, roedd yn diodde’ blacowts cyson, yn tagu ac yn ei chael hi’n anodd anadlu.

Mae tystion eraill wedi sôn fel yr oedd Kevin Dooley yn ei chael hi’n anodd ymdopi gyda’r pwysau o ddod â dau ben llinyn ynghyd.