Mae dau o bobol yn wynebu cyhuddiadau tros lun o’r diweddar bêl-droediwr Emiliano Sala mewn marwdy yn Bournemouth.

Bydd Sherry Bray, 48, a Christopher Ashford, 62, yn mynd gerbron llys ar ôl i’r llun gael ei bostio a’i rannu’n helaeth ar wefannau cymdeithasol.

Bu farw’r pêl-droediwr mewn damwain awyr ar Ionawr 21, yn fuan ar ôl iddo gytuno i symud i Glwb Pêl-droed Caerdydd o Nantes yn Llydaw.

Cafwyd hyd i’w gorff yn y môr ger ynysoedd y Sianel ar Chwefror 6, ond mae’r peilot David Ibbotson, 59 oed o Swydd Lincoln, yn dal ar goll.

Cyhuddiadau

Mae Sherry Bray yn wynebu tri chyhuddiad o gamddefnyddio cyfrifiadur, gwyrdroi cwrs cyfiawnder ac anfon neges anweddus neu sarhaus.

Mae Christopher Ashford yn wynebu chwe chyhuddiad o gamddefnyddio cyfrifiadur.

Cawson nhw eu harestio ym mis Chwefror, a byddan nhw’n mynd gerbron ynadon Swindon ar Orffennaf 10.