Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau Donald Trump a’i wraig, Melania, wedi cyrraedd gwledydd Prydain heddiw (dydd Llun, Mehefin 3) ar gyfer ymweliad tridiau.

Cyn iddo adael y Tŷ Gwyn nos Sul, dywedodd Donald Trump ei fod yn disgwyl i’w ymweliad fod yn un “pwysig iawn” ac “yn bendant yn un diddorol iawn”.

Mae’r Arlywydd eisoes wedi corddi’r dyfroedd drwy ddatgan ei fod yn cefnogi Boris Johnson fel arweinydd nesaf y Blaid Geidwadol i olynu Theresa May. Mae hefyd wedi dweud ei fod yn credu y dylai Nigel Farage fod yn rhan o’r trafodaethau Brexit. Ac wrth iddo lanio yng ngwledydd Prydain bore ma fe ymosododd ar Faer Llundain Sadiq Khan. Fe ymatebodd yntau drwy ddweud y dylai “sylwadau sarhaus, plentynnaidd fod islaw Arlywydd yr Unol Daleithiau.”

Fe awgrymodd Donald Trump y gallai gwrdd â Boris Johnson a Nigel Farage yn ystod ei ymweliad.

“Maen nhw eisiau cwrdd. Gawn ni weld beth sy’n digwydd,” meddai.

Cyn ei ymweliad, roedd yr Arlywydd wedi galw ar wledydd Prydain i adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb os yw Brwsel yn gwrthod cynlluniau’r Llywodraeth. Mae hefyd wedi awgrymu y gallai cytundeb masnach fod yn rhan o’r trafodaethau yn ystod ei ymweliad.

Roedd Donald Trump a’i wraig wedi cyrraedd maes awyr Stansted bore ma cyn mynd i Balas Buckingham i gwrdd â’r Frenhines, Tywysog Charles a Duges Cernyw. Fe fydd Dug Sussex hefyd yn ymuno a’r Arlywydd am ginio preifat yn y palas. Mae Donald Trump wedi gwadu gwneud sylwadau sarhaus am Dduges Sussex.

Fe fydd hefyd yn cwrdd a’r Prif Weinidog Theresa May cyn iddi hi ymddiswyddo.

Mae disgwyl i ymweliad Donald Trump arwain at brotestiadau yng nghanol Llundain tebyg i’r rhai a gafwyd yn ystod ei ymweliad y tro diwethaf.