Mae ymgyrchwyr wedi cael eu cythruddo yn dilyn y penderfyniad i dorri golygfeydd rhywiol allan o’r ffilm ‘Rocketman’, sy’n adrodd hanes bywyd y canwr hoyw Elton John.

Taron Egerton, a gafodd ei fagu yng Nghymru, sy’n chwarae’r canwr yn y ffilm sy’n cynnwys golygfeydd rhywiol rhwng dynion ac sy’n darlunio’r defnydd o gyffuriau.

Mae un sinema ym Mosgo eisoes yn dweud y bydd yn gofyn am gael dangos y ffilm yn ei chyfanrwydd.

Mae Gweinyddiaeth Ddiwylliant y wlad yn gwadu mai eu penderfyniad nhw yw peidio â dangos y golygfeydd.

Mae dosbarthwr y ffilm yn cael ei gyhuddo o homoffobia, yn enwedig ar ôl dileu rhan o naratif y ffilm sy’n egluro bod Elton John wedi mynd yn ei flaen i briodi dyn ac i fabwysiadu plant gyda’i ŵr.

Mae Elton John yn dweud ei fod yn “drist” na fydd cynulleidfaoedd yn Rwsia yn cael gweld y ffilm yn ei chyfanrwydd.