Dylai Prydain adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb os nad yw Brwsel yn ildio i’w gofynion, yn ôl Donald Trump, Arlywydd yr Unol Daleithiau, sy’n dweud y dylai Nigel Farage gael rhan flaenllaw yn y trafodaethau.

Daw ei sylwadau yn y Sunday Times ar drothwy ymweliad gwladol â gwledydd Prydain.

Mae’n dweud y dylai Prydain wrthod talu’r bil o £39m i adael yr Undeb Ewropeaidd os nad yw’n fodlon ar y trafodaethau.

Mae’n dweud mai “camgymeriad” yw peidio â chynnwys Nigel Farage, arweinydd Plaid Brexit, yn y trafodaethau, gan ddweud bod ganddo fe “lawer i’w gynnig”.

“Mae e’n berson clyfar iawn,” meddai. “Fyddan nhw ddim yn dod â fe i mewn. Meddyliwch pa mor dda fydden nhw’n gwneud pe baen nhw’n gwneud hynny.

“Dydyn nhw jyst ddim wedi gweithio hynny allan eto.”

Perthynas Prydain a’r Undeb Ewropeaidd

Bydd Donald Trump yn glanio yn Llundain yfory (dydd Llun, Mehefin 3), ac mae’n annog Llywodraeth Prydain i “gau pen y mwdwl ar y cytundeb”.

Mae’n dweud y dylai Prydain “gerdded i ffwrdd” oni bai eu bod nhw’n sicrhau’r cytundeb maen nhw am ei gael.

Mae hefyd yn dweud nad yw’n rhy hwyr i “ddwyn achos” yn erbyn yr Undeb Ewropeaidd er mwyn gwella sefyllfa Prydain yn y trafodaethau.

Wrth drafod perthynas Prydain a’r Unol Daleithiau, mae’n dweud ei fod yn gobeithio sicrhau cytundeb masnach o fewn misoedd ar ôl Brexit.

Mae e eisoes wedi datgan ei gefnogaeth i Boris Johnson yn y ras i arwain y Ceidwadwyr, ac mae’n dweud y byddai’n rhaid iddo ddod i adnabod Jeremy Corbyn yn well cyn rhannu cudd-wybodaeth.

Ar ddiwrnod cyntaf ei ymweliad, fe fydd Donald Trump yn cael cinio â’r Frenhines, te yn Clarence House gyda Thywysog Cymru a Duges Cernyw, a gwledd ym Mhalas Buckingham.