Mae Anthony Joshua, y paffiwr o Loegr, yn awyddus i herio Andy Ruiz Jr unwaith eto ar ôl ildio ei holl deitlau iddo mewn gornest yn Efrog Newydd neithiwr (nos Sadwrn, Mehefin 1).

Fe gollodd ei deitlau pwysau trwm IBF, WBA a WBO ar ôl iddo gael ei lorio bedair gwaith.

Dyma’r tro cyntaf iddo ymladd yn yr Unol Daleithiau, a fe oedd y ffefryn i ennill ar ôl i’w wrthwynebydd gael cwta fis o rybudd i baratoi.

Daeth yr ornest i ben yn y seithfed rownd, pan roddodd y dyfarnwr stop arni ar ôl i Anthony Joshua gwympo i’r llawr am yr ail waith.

Yn ôl Eddie Hearn, ei hyrwyddwr, mae’n debygol y bydd yr ornest nesaf rhwng y ddau yn cael ei chynnal yng ngwledydd Prydain.