Ar ôl eu llwyddiant yn etholiad Ewrop yr wythnos ddiwethaf, mae’n ymddangos fod Plaid Brexit ar ei ffordd i fuddugoliaeth yn is-etholiad Peterborough ddydd Iau.

Plaid Nigel Farage yw ffefryn y bwcis yn yr etholaeth, lle bu’n rhaid i’r AS Llafur, Fiona Onasanya, roi’r gorau iddi ar ôl cael ei charcharu am ddweud celwydd am drosedd yrru.

Wrth ymgyrchu yn yr etholaeth heddiw, dywedodd Nigel Farage fod yr is-etholiad yn gyfle mawr i’w blaid.

“Mewn rhai ffyrdd, mae’r hyn fydd yn digwydd yma ddydd Iau yn fwy hyd yn oed na’r hyn a ddigwyddodd dydd Sul,” meddai, wrth gyfeirio at lwyddiant ei blaid yn etholiadau Ewrop