Mae dros 130,000 o deuluoedd ledled Prydain wedi colli cyfleoedd i gael bwyd iach am ddim y llynedd – oherwydd nad oedd y Llywodraeth yn hyrwyddo’r cynllun yn ddigon da.

Dyna mae 26 o elusennau yn ei honni mewn llythyr at Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth Prydain, Matt Hancock.

Mae’r cynllun Cychwyn Iach yn rhoi taleb wythnosol o £3.10 i ferched beichiog a theuluoedd sydd â phlant o dan 4 oed, sy’n eu galluogi nhw i brynu ffrwythau a llysiau, llaeth a bwyd babanod.

Yn ôl yr elusennau, sy’n cynnwys y Gymdeithas Frenhinol Iechyd Cyhoeddus a Choleg Brenhinol y Bydwragedd, dim ond 64% o’r rhai cymwys a fanteisiodd ar y cynllun yng Nghymru a Lloegr yn 2018. Mae’n golygu fod y teuluoedd eraill wedi colli’r cyfle am werth £28.6 miliwn o fwydydd iach am ddim.

Mae’r elusennau’n awr yn galw ar i’r arbedion o dalebau na chafodd eu hawlio gael eu defnyddio i ariannu ymgyrch ymwybyddiaeth am fanciau bwyd.