Mae degau o filoedd o gefnogwyr pêl-droed Lerpwl a Tottenham Hotspur wedi cyrraedd Madrid yn barod am y gêm fawr heno.

Mae llawer ohonyn nhw’n debygol o dreulio’r diwrnod yn chwilio’n ofer am docyn, gan fod llawer mwy ohonon nhw na’r 16,000 o docynnau sydd ar gael i gefnogwyr y ddau dîm.

Mae siom hefyd na fydd y gêm yn cael ei dangos ar sgriniau mawr yn y ddinas – er y bydd modd ei gweld mewn 14,000 o fariau a thai bwyta.

Mae miloedd o blismyn ychwanegol – gan gynnwys rhai o lannau Mersi a Llundain – yno i gadw trefn, gyda rhybudd y byddan nhw’n ymateb yn llym i unrhyw gamymddwyn gan gefnogwyr.

Fe fydd y gêm yn cychwyn yn Stadiwm Metropolitano am 8 o’r gloch heno (ein hamser ni).