Mark Harper yw’r diweddaraf i gyhoeddi ei fwriad i sefyll am arweinyddiaeth y blaid Geidwadol.

Mae dwsin o Geidwadwyr bellach wedi cyhoeddi eu bod am ymgeisio i olynu Theresa May pan fydd hi’n ildio’r awenau ar Fehefin 7.

Nid yw’r cyn-brif chwip Mark Harper wedi gwasanaethu yn llywodraeth Theresa May ac mae’n dweud bod hynny’n ei wneud yn wahanol i’r ymgeiswyr eraill.

Dywedodd bod Theresa May a’r ymgeiswyr eraill yn rhannu’r cyfrifoldeb am y methiant i ddelifro Brexit a’i fod o’n cynnig agwedd mwy “ffres”.

Roedd Mark Harper wedi pleidleisio o blaid aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd yn 2016 ac mae wedi awgrymu efallai y bydd yn rhai gohirio Brexit y tu hwnt i Hydref 31 os yw’r prif weinidog nesaf eisiau ail-drafod cytundeb Brexit gyda Brwsel. Mae rhai o’r ymgeiswyr eisoes wedi dweud eu bod yn barod i adael heb gytundeb.

Ond mae Carolyn Fairbairn, Cyfarwyddwr Cyffredinol y CBI, wedi rhybuddio’r ymgeiswyr Ceidwadol yn erbyn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb gan ddweud y byddai’n niweidiol iawn i fusnesau.