Bydd busnesau gwledydd Prydain yn cael eu heffeithio “yn fawr” os bydd Brexit yn mynd rhagddo heb gytundeb.

Dyna’r rhybudd gan Gydffederasiwn Diwydiant Prydain (CBI) i’r ymgeiswyr am arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol.

Bellach mae 12 Aelod Seneddol wedi taflu’u hetiau i’r cylch i olynu Theresa May yn arweinydd, ac yn eu plith mae sawl ymgeisydd sy’n agored i’r syniad o adael heb gytundeb.

Mewn llythyr agored at yr ymgeiswyr mae Carolyn Fairbairn, Cyfarwyddwr Cyffredinol y CBI, wedi erfyn ar y Prif Weinidog nesaf i ddod i gytundeb â Brwsel.

“Swyddi a safonau byw”

“Dim ond os cawn Brexit gyda chytundeb y gall y Prif Weinidog nesaf honni mai’r Ceidwadwyr yw plaid sy’n cynrychioli busnes,” meddai’r llythyr.

“A rhaid bod y ddêl honno yn amddiffyn yr economi, swyddi a safonau byw. Mae busnesau o bob maint wedi nodi’n glir mai gadael Ewrop gyda chytundeb yw’r opsiwn gorau.”