Mae Jo Swinson wedi cyhoeddi y bydd hi’n sefyll fel ymgeisydd am arweinyddiaeth y Democratiaid Rhyddfrydol.

Dywedodd dirprwy arweinydd y blaid mai hi oedd y person iawn i arwain y “symudiad rhyddfrydol” wrth iddi gyhoeddi ei bwriad i olynu Syr Vince Cable.

Daw’r gystadleuaeth am yr arweinyddiaeth wrth i’r Democratiaid Rhyddfrydol gael hwb mewn pôl piniwn gan YouGov ar gyfer The Times sy’n awgrymu mai nhw yw’r blaid fwyaf poblogaidd. Daeth y blaid yn ail yn yr etholiadau Ewropeaidd.

Fe fydd arweinydd newydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn cymryd yr awenau ar Orffennaf 23 ar ôl i Syr Vince Cable gyhoeddi ei fwriad i gamu o’r neilltu yn gynharach eleni.

Yr ymgeisydd arall yn y ras yw cyn-weinidog y cabinet Syr Ed Davey. Mae e eisoes wedi lansio ei ymgyrch gyda chynllun i alw ar y Frenhines i atal Brexit heb gytundeb.

Roedd Jo Swinson hefyd wedi bod yn weinidog yn y llywodraeth glymblaid ac fe fydd hi’n lansio ei hymgyrch yn swyddogol heddiw (dydd Gwener, Mai 31) – mae hi eisoes yn ffefryn i ennill y ras.