Fe fydd siop gyntaf Microsoft yn ngwledydd Prydain yn agor yn ninas Llundain ar Orffennaf 11 eleni.

Mae’r cwmni rhyngwladol wedi bod â bwriad i agor siop ers sawl blwyddyn, a bydd yr un newydd wedi ei lleoli yn Oxford Circus – nid nepell o siop Apple yn Regent Street.

Bydd y siop yn gwerthu amrywiaeth o nwyddau, gan gynnwys Surface, Xbox a gemau cyfrifiadurol. Mae disgwyl iddo fod yn siop o gryn faint hefyd, gan orchuddio 21,932 o droedfeddi sgwâr dros dri llawr.

Yn ôl Microsoft, maen nhw wedi penderfynu agor siop wrth iddyn nhw fuddsoddi mwy yn eu busnes yng ngwledydd Prydain.