Mae Maer Llundain, Sadiq Khan, wedi cyhuddo’r comediwr, John Cleese, o ymddwyn “fel Basil Fawlty” yn dilyn sylwadau a wnaeth am ddinas Llundain.

Mae John Cleese wedi creu ffrae fawr ar-lein trwy awgrymu nad ydi Llundain yn “ddinas Seisnig” ddim mwy.

“Mae’r sylwadau yma gan John Cleese yn gwneud iddo swnio fel ei gymeriad, Basil Fawlty, yn y gyfres Fawlty Towers,” meddai’r Maer mewn ymateb.

“Mae Llundeinwyr yn gwybod mai yr amrywiaeth o bobol sy’n byw yn y ddinas ydi ein cryfder,” meddai Sadiq Khan eto.

“Rydan ni’n browd iawn i fod yn brifddinas Lloegr, yn ddinas Ewropeaidd, ac yn hwb rhyngwladol.”

Ond roedd John Cleese wedi rhannu neges gyda’i 5.6 miliwn o ddilynwyr fod cyfeillion iddo wedi cadarnhau ei amheuon nad yw Llundain bellach yn ddinas “Seisnig”, ac fe awgrymodd mai dyna oedd i gyfri fod Llundain wedi pleidleisio o blaid aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd yn refferendwm Brexit.

Mae wedi cael ei gondemnio gan nifer fawr o bobol ar wefan gymdeithasol Twitter, a rhai’n gofyn iddo egluro beth yn union ydi “dinas Seisnig” heddiw.