Liam Fox
Mae cwestiynau yn parhau i gael eu gofyn am y berthynas waith rhwng Ysgrifennydd Amddiffyn Llywodraeth Prydain, Liam Fox, a’i ffrind agos, Adam Werritty.

Hedfanodd Mr Fox i Libia neithiwr a chafodd gyfarfod gydag Ysgrifennydd Amddiffyn Cyngor Cenedlaethol dros Dro Libia, Jalal al-Digheily. Ond mae mwy o sylw yn cael ei roi yn y wasg i’w berthynas â’i ffrind na’r ymweliad.

Dywedir fod Mr Werritty wedi ymweld â swyddfeydd y Weinyddiaeth Amddiffyn 14 gwaith dros 16 mis er nad yw yn cael ei gyflogi gan y Llywodraeth.

Ac mae papurau newydd y Guardian, yr Independent a’r Times wedi datgelu mwy o honiadau am y berthynas.

Mae ymchwiliad mewnol yn cael  ei gynnal i’r mater gan Ursula Brennan, Ysgrifennydd Parhaol oddi fewn y Weinyddiaeth Amddiffyn. Disgwylir ei chanlyniadau cyntaf ar Hydref 21.

Mae Liam Fox eisoes wedi dweud nad oes unrhyw sail i’r honiadau am ei berthynas â’i ffrind.