Mae mam wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio ei dau fab.

Mae Sarah Barrass, 34, wedi’i chyhuddo o lofruddio Blake Barrass, 14, a Tristan Barrass, 13 oed, yn dilyn digwyddiad yn ardal Shiregreen yn Sheffield ddydd Gwener (Mai 24).

Fe ymddangosodd yn y llys ynadon ynghyd a Brandon Machin, 37, sydd hefyd wedi’i gyhuddo o lofruddio’r ddau fachgen.

Clywodd y llys bod Sarah Barrass a Brandon Machin wedi’u cyhuddo o lofruddio’r ddau fachgen ar Fai 24.

Mae Sarah Barrass hefyd wedi’i chyhuddo o dri achos o geisio llofruddio yn ymwneud a dau blentyn arall.

Nid oedd y ddau wedi gwneud cais am fechnïaeth ac fe fyddan nhw’n cael eu cadw yn y ddalfa cyn ymddangos gerbron Llys y Goron Sheffield ddydd Mawrth.

Cafodd yr heddlu eu galw i dy yn Shiregreen tua 7.30yb ddydd Gwener.

Dywed ditectifs nad ydyn nhw’n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad.