Mae Tom Watson, dirprwy arweinydd y Blaid Lafur, yn dweud fod rhaid i’r blaid gefnogi’r alwad am ail refferendwm Brexit er mwyn bod â gobaith o ennill yr etholiad cyffredinol nesaf.
Mae’n ofni fod diffyg penderfyniad y blaid yn mynd i’w niweidio pan fydd canlyniadau etholiadau Ewrop yn cael eu cyhoeddi.
Cyd-fynd â’i haelodau
Mae’n galw, mewn erthygl yn yr Observer, am sicrhau bod safbwynt y blaid yn cyd-fynd â safbwynt ei haelodau.
“Er lles ein plaid, ond yn fwyaf oll er lles Prydain, rhaid i Lafur ddarganfod asgwrn cefn ar Brexit, darganfod ein llais – a gwneud hynny’n gyflym,” meddai.
“Mae ein perfformiad yn ganlyniad uniongyrchol i’n cefnogaeth chwit-chwat i bleidlais gyhoeddus ar Brexit pan fo’n cael ei mynnu yn groch gan y rhan fwyaf sylweddol o’n haelodau a’n pleidleiswyr.
“Mae’r polau’n dangos bod Llafur wedi bod yn colli hyd at bedair gwaith yn fwy o bleidleiswyr i bleidiau sy’n cefnogi pleidlais y bobol yn llwyr nag i Farage.
“Ac mae’r union bolau hynny’n dangos y bydden ni wedi ei guro fe o bell ffordd pe baen ni wedi cefnogi pleidlais gyhoeddus ar unrhyw ffurf ar Brexit yn llwyr.
“Unwaith y daw’r canlyniadau i law, rhaid i ni gyfeirio ein rhwystredigaeth tuag at adennill y pleidleiswyr hynny.
“Ni all polisi Llafur ar fater pwysicaf ein cenhedlaeth fod ar yr ochr anghywir i’w haelodau a’i phleidleiswyr.”