Mae 59,000 o bobol wedi llofnodi deiseb yn cefnogi meddyg sy’n destun ymchwiliad am iddo ofyn i ddynes Foslemaidd dynnu ei phenwisg wrth iddo siarad â hi am salwch ei merch.

Dywed Dr Keith Wolverson ei fod yn “ofni’r canlyniadau” ar ôl clywed y byddai’n wynebu panel disgyblu’r Cyngor Meddygol Cyffredinol ac yn destun ymchwiliad i wahaniaethu ar sail hil.

Mae’n dweud nad oedd y ddynes i’w gweld wedi ei hypsetio yn ystod apwyntiad yn Ysbyty Brenhinol Stoke fis Mehefin y llynedd.

Mae’r meddyg, sydd wedi bod yn feddyg teulu ers 23 o flynyddoedd, yn dweud y bydd yn “brwydro hyd y diwedd” er mwyn cael cadw ei swydd.

“Fe wnes i ofyn i’r ddynes dynnu’r gorchudd oddi ar ei hwyneb er mwyn cael cyfathrebu’n ddigonol, yn yr un modd ag y byddwn yn gofyn i feiciwr modur dynnu helmed,” meddai’r meddyg 52 oed.

“Pan ddaeth y llythyr, ro’n i’n ofni’r canlyniadau braidd.

“Dw i ychydig yn drist fod y wlad wedi ymrwymo i’r fath raddau â hyn.

“Ond mae’n cymryd mwy na hyn i’m taflu oddi ar fy echel.”