Mae adroddiadau bod dyn 44 oed o wledydd Prydain wedi marw ar fynydd Everest.

Mae’r Swyddfa Dramor yn ymchwilio i’r adroddiadau yn yr Himalayan Times, sy’n dweud bod y dyn wedi marw ar ôl dringo i’r copa.

Does dim cadarnhad hyd yn hyn.

Mae’n dilyn marwolaeth Kevin Hynes, dringwr 56 oed o Iwerddon ddoe (dydd Gwener, Mai 24).

Yr wythnos ddiwethaf, fe fu farw’r Athro Seamus (Shay) Lawless, 39, wrth ddringo i lawr o’r copa, ac roedd adroddiadau yn ystod yr wythnos am farwolaethau dringwyr o Awstria, India a’r Unol Daleithiau.