Mae ffrindiau Lyra McKee, y newyddiadurwraig 29 oed a gafodd ei saethu’n farw yng Ngogledd Iwerddon fis diwethaf, yn cerdded o Belffast i Derry er cof amdani.

Mae cannoedd o bobol yn cymryd rhan yn y digwyddiad heddiw (dydd Sadwrn, Mai 25), ac mae disgwyl i Gary Lightbody, prif leisydd y band Snow Patrol, ymuno â nhw tua diwedd y daith ddydd Llun (Mai 27).

Cafodd hi ei saethu yn ei phen gan yr IRA Newydd yn ystod gwrthdaro â’r heddlu yn Derry fis diwethaf.

Man cychwyn y daith yw Eglwys Gadeiriol y Santes Anne, lle cafodd ei hangladd ei gynnal, a byddan nhw’n anelu am Neuadd y Ddinas Derry erbyn dydd Llun.

Mae trafodaethau ar y gweill yng Ngogledd Iwerddon i geisio heddwch yn y wlad.