Mae disgwyl i Theresa May gyhoeddi heddiw pryd y bydd hi’n rhoi’r gorau i fod yn Brif Weinidog.

Daw hyn yn dilyn wythnosau o bwysau aruthrol arni gan weinidogion y Ceidwadwyr i gamu o’r neilltu oherwydd ei chynllun Brexit.

Fe fydd Theresa May yn cyfarfod arweinydd Pwyllgor 1922 y Torïaid, Syr Graham Brady, heddiw (Dydd Gwener, Mai 24) i drafod ei dyfodol ar ôl iddi golli ei hawdurdod yn sgil trafodaethau Brexit.

Mae disgwyl y bydd dyddiad ymadael y Prif Weinidog yn cael ei gyhoeddi ar ôl iddi ddod allan o’r cyfarfod hwnnw.

Dywed ffynhonnell o Bwyllgor 1922 wrth y Press Association (PA) eu bod yn disgwyl mai Mehefin 10 yw’r diwrnod mae Theresa May wedi dewis ar gyfer trosglwyddo’r awenau i’w holynydd.

Gobaith y Torïaid yw y byddan nhw’n cael dewis arweinydd newydd cyn diwedd yr haf er mwyn prosesu cytundeb Brexit cyn Hydref 31 – sef y dyddiad mae gwledydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd.

Mae’n ymddangos bod arweinyddiaeth Theresa May wedi cael ergyd yn dilyn yr ymateb i’w chynlluniau newydd ar gyfer Brexit sy’n rhoi cynnig i Aelodau Seneddol gynnal ail refferendwm ac opsiwn a fyddai’n gadael gwledydd Prydain mewn undeb tollau dros dro gydag Ewrop.

Mae’r ddau fesur yna yn annerbyniol i Dorïaid Ewro-sgeptig.