Mae dynes o wledydd Prydain wedi marw ar awyren Ryanair oedd fod i hedfan o Majorca i Gaeredin.

Roedd y ddynes, oedd yn 58 oed, wedi mynd yn sâl ar yr awyren wrth iddi baratoi i adael maes awyr dinas Palma ddoe (Dydd Mercher, Mai 22).

Aeth parafegyddion ar yr awyren i’w thrin ond bu farw’r ddynes yn y fan a’r lle, meddai Ryanair.

Dywed y Swyddfa Dramor fod swyddogion yn cefnogi ei theulu.