Mae disgwyl i’r Blaid Lafur a’r Toriaid gael eu siomi wrth i wledydd Prydain fynd i bleidleisio yn etholiadau Ewrop heddiw (dydd Iau, Mai 23).

Yn ôl yr arolwg barn ddiweddaraf a’r rhwystredigaeth ynghylch Brexit mae’n debygol y bydd pleidiau Theresa May a Jeremy Corbyn yn colli nifer fawr o bleidleiswyr, gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol a’r Brexit Party eu dwyn.

Fe fydd 73 Aelod o Senedd Ewrop yn cael eu hethol i gynrychioli gwledydd Prydain trwy system cynrychiolaeth gyfrannol y system D’Hondt.

Bydd y canlyniadau yn cael eu cyhoeddi nos Sul (Mai 26) pan mae’r orsaf bleidleisio olaf ar y cyfandir yn cau.

Cymru

Mae gan Gymru pedwar rhanbarth fydd yn cynrychioli’r wlad i gyd.

Yn ôl c yr arolwg barn ddiweddaraf mae’r Brexit Party yn arwain ar 36% (+26 o’r bleidlais olaf ym mis Ebrill), Plaid Cymru ar 19% (+4), Llafur 15% (-15), y Democratiaid Rhyddfrydol 10% (+4), Gwyrddion 8% (+5), Ceidwadwyr 7% (-9), Ukip 2% (-9), Change UK 2% (-6) ac Eraill 1% (dim newid).

Os yw canlyniad hwn yn cael ei wireddu bydd y Brexit Party yn ennill dwy sedd a Phlaid Cymru a Llafur yn cael un yr un.

Fe fydd y blaid sydd a’r mwyaf o bleidleisiau – yn yr achos yma y Brexit Party – yn gweld eu prif ymgeisydd yn cael ei ethol – Nathan Gill, gafodd ei ethol fel Aelod Senedd Ewrop yn 2014 i gynrychioli Ewrop.

Yn ôl system D’Hondt, fe fyddai canran y Brexit Party wedyn yn cael ei haneru o 36% i 18%.

Gan fod gan Blaid Cymru cefnogaeth 19% o bleidleiswyr, fe fyddai’r Aelod Seneddol Ewrop presennol, Jill Evans yn cymryd yr ail sedd, a bydd canran y blaid yn disgyn i 9.5%

Yna, byddai’r drydedd sedd yn mynd i James Wells o’r Brexit Party fyddai’n arwain at ganran y blaid wedyn yn gostwng i 9%.

Byddai’r bedwaredd sedd a’r olaf yn mynd i brif ymgeisydd Llafur, Jackie Jones, ac yn gweld canran Llafur yn gostwng i 7.5%.