Theresa May yn dechrau trafodaethau ar gynnig newydd i Aelodau Seneddol

 
Wyne Theresa may yn edrych dan bwysau

Theresa May

Llun: Swyddfa Arlywydd Estonia trwy Commons Wikimedia

Mae disgwyl i Theresa May ddechrau trafodaethau gydag uwch weinidogion ynglŷn â’i chynnig newydd i Aelodau Seneddol, mewn ymdrech olaf i sicrhau bod ei chytundeb Brexit yn cael ei gymeradwyo gan y Senedd.

Yn y cyfarfod wythnosol o’r Cabinet ddydd Mawrth mae disgwyl i weinidogion gymeradwyo pecyn o fesurau a fydd yn cael eu cynnwys yn y Bil Ymadael a’r Undeb Ewropeaidd (UE), mewn ymdrech i gael cefnogaeth drawsbleidiol.

Serch hynny, mae ‘na amheuaeth yn San Steffan na fydd y cynnig newydd yn cael gwell cefnogaeth na’r tri blaenorol yn Nhŷ’r Cyffredin.

Yn dilyn methiant y trafodaethau gyda’r Blaid Lafur wythnos ddiwethaf , dywedodd Jeremy Corbyn nad oedd wedi gweld unrhyw beth newydd a fyddai’n i berswadio i’w gefnogi.

Daw hyn wrth i’r Ceidwadwyr ddisgwyl canlyniadau siomedig yn yr etholiadau Ewropeaidd ddydd Iau.

 

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Owain Glyn Dŵr a dysgu hanes Cymru – darlith Dr Elin Jones