Mae gwleidyddion sydd ddim yn sefyll dros.yr hyn y maen nhw’n ei gredu, yn gyfrifol am stad drurnus gwledydd Prydain, yn ôl Anna Soubry.

Mae’r Aelod Seneddol o blaid Change UK yn dweud mai dyna’r unig blaid a all drwsio’r sefyllfa, ac mae’n galw ar bleidleiswyr i fod yn “ddewr” a dilyn eu greddf a’u cydwybod..a dweud ’digon ydi digon’.

“Y.peth arall sydd angen ei newid ydi ffurfio polisïau sydd wedi’u seilio ar egwyddorion yn hytrach nag ar dystiolaeth go iawn,” meddai.

“Mae angen bod yn onest efo pobol ynglyn ä’r dewisiadau anodd sy’n rhaid i ni eu gwneud, yn hytrach na mynd am y sowndbeit tsiêp.”

“Os ydach chi’n gosod y sefyllfa, mae modd ennill calonnau a meddwl pobol, ac rydach chi’n ennill y ddadl yn y pen draw.”