Mae dau gerbyd yr heddlu wedi cael eu difrodi yn ystod ffrwgwd yn un o ddigwyddiadau ymgyrchu Tommy Robinson.

Mae fideos ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos gwrthdaro rhwng cefnogwyr yr ymgyrchydd EDL (English Defence League) a’u gwrthwynebwyr yn Oldham, bnawn Sul (Mai 18).

Mae llefarydd ar ran Heddlu Greater Manchester yn cadarnhau fod swtddogion wedi ymateb i’r gwrthdaro yn ardal Limeside.

“Fe gafodd nifer o wrthrychau eu taflu, ac ac fe gafodd peth difrod ei achosi i ddau gerbyd yr heddlu, ond chafodd neb ei anafu,” meddai’r llefarydd.

Roedd fideo byw ar Facebook gan grwp yn ei alw ei hun y Muslim Defence League yn dangos grwp o ddynion Asiaidd yn sefyll ac yn gweiddi ar grwp arall, gan eu galw’n hiliol.