Mae Jeremy Corbyn yn honni mai dim ond y blaid Lafur all rwystro twf y dde eithaf ym Mhrydain.

Mewn rali yn Bootle, Lerpwl, heddiw, mae disgwyl i arweinydd Llafur geisio osgoi beirniadaeth am ddiffyg neges clir ei blaid ar Brexit trwy apêl draddodiadol ar ei gefnogwyr i uno yn erbyn polisïau llymder y Torïaid.

“Cenhadaeth llafur yw uno cymunedau dosbarth gweithiol amrywiol trwy atebion cyffredin,” meddai, gan ddadlau bod rhaniadau mewn cymdeithas yn bod cyn refferendwm yr Undeb Ewropeaidd.

“Mae blynyddoedd o esgeuluso’n cymunedau, o doriadau mewn gwasanaethau cyhoeddus i dalu am doriadau treth i’r cyfoethog, wedi agor y drws i’r dde eithaf. Lle Llafur yw gwrthsefyll y bygythiad hwnnw.

“Mae angen rhaglen radical Llafur i drawsnewid ein gwlad a throi’r llanw o anghydraddoldeb yn ôl trwy ddod â llymder i ben a buddsoddi yn ein cymunedau a phobl.

“Rydym ni’n cynnig gobaith, a’r cyfan sydd gan y dde eithaf i’w gynnig yw ofn.”