Ddyddiau ar ôl i Theresa May gadarnhau ei bwriad i ymddiswyddo fel Prif Weinidog, Boris Johnson yw’r ffefryn clir ymysg aelodau’r Blaid Geidwadol i’w holynu ar hyn o bryd.

Mae arolwg barn gan YouGov o’r aelodau – a fydd â’r gair olaf yn yr onest – yn dangos 39% yn cefnogi’r Cyn-ysgrifennydd Tramor, sydd deirgwaith y 13% i’r un agosaf ato, y Cyn-ysgrifennydd Brexit, Dominic Raab.

Yn eu dilyn mae’r Ysgrifennydd Cartref Sajid Javid ac Ysgrifennydd yr Amgylchedd Michael Gove ar 9%, gyda’r Ysgrifennydd Tramor presennol, Jeremy Hunt, ar 8%.

Mae’r Ysgrifennydd Amddiffyn Penny Mordaunt, ac Arweinydd y Tŷ, Andrea Leadsom ar 5%, gyda’r Ysgrifennydd Datblygu Rhyngwladol Rory Stewart ar 4% a’r Ysgrifennydd Iechyd Matt Hancock ar 1%.

Fe wnaeth YouGov gyfweld â 858 o aelodau’r Blaid Geidwadol rhwng Mai 10 ac 16.